AGOR DY LYGAID - Galwad Agored
ARDDANGOSFA YR ŴYL
LLEOLIAD: TBC
AR AGOR: 3rd Hydref - 31st Hydref 2025.
AGOR DY LYGAID
ARDDANGOSFA GALWAD-AGORED NEWYDD GAN ŴYL FFOTOGRAFFIAETH NORTHERN EYE
📅 Dyddiadau’r arddangosfa: 03–31 Hydref 2025
📍Bae Colwyn, Gogledd Cymru
🕛 Dyddiad cau i gyflwyno: Hanner nos, 31 Awst 2025
💷 Ymgeisio am ddim | £5 am bob llun sy’n cael ei ddewis (i dalu am argraffu a chynhyrchu)
Mae Gŵyl Ffotograffiaeth Northern Eye yn hynod falch o gyhoeddi ei galwad agored gyntaf erioed ar gyfer ffotograffwyr – a byddai’n wych eich gweld chi’n rhan ohoni.
Yn cyflwyno AGOR DY LYGAID: arddangosfa grŵp gyffrous newydd sbon yn dathlu ffotograffiaeth yn ei holl ffurfiau, a’r ffyrdd unigryw rydym i gyd yn gweld y byd.
Galwad agored sy’n eich rhoi chi wrth galon yr ŵyl.
Boed eich gwaith yn ddogfennol, arbrofol, personol, gwleidyddol, yn cyfleu’r llawen neu’n dawel fyfyriol, a chithau’n gweithio gyda chamera digidol neu analog, eich ffôn neu focs o brintiau o’r atig – os yw’n golygu rhywbeth i chi, rydym ni eisiau ei weld o.
’Does dim thema, dim meini prawf caeth, dim pwysau nac unrhyw ddisgwyliadau. Dim ond drws ar agor a gwahoddiad cynnes i ymuno â phlatfform ar gyfer creadigrwydd, gonestrwydd a lleisiau ffotograffig o bob math.
PAM RŴAN?
Mae’r fenter newydd hon yn nodi cam cyffrous ymlaen i’r ŵyl – ac i’n cymuned sy’n tyfu o hyd. Wrth i ni ddatblygu, rydym eisiau i’r ŵyl adlewyrchu creadigrwydd y rhai sy’n ei siapio hi, sef chi. Pwrpas yr arddangosfa hon yw creu lle ar gyfer safbwyntiau newydd, straeon sydd heb eu hadrodd, a delweddau sy’n herio, yn ysbrydoli, neu yn syml yn mynnu cael eu gweld.
Rydym ni’n falch o fod yn lansio’r galwad agored hwn yn rhan o’n nod o wneud yr ŵyl yn un sy’n canolbwyntio’n fwy ar gynhwysiant, hygyrchedd a’r gymuned nag erioed o’r blaen.
Fel yr “ŵyl ffotograffiaeth fwyaf cyfeillgar yn y bydysawd” yng ngolwg nifer, mae gŵyl Northern Eye yn falch o fod ar y blaen o ran cynhwysiant, creadigrwydd a chysylltiadau trwy ffotograffiaeth.
PWY ALL YMGEISIO?
Mae’r alwad ar agor i bawb, beth bynnag fo’u profiad, lefel, cefndir neu hyfforddiant ac mae pobl sy’n byw ym Mhrydain ac yn rhyngwladol yn gallu ymgeisio.
P’un a ydych chi’n artist sy’n datblygu eich crefft, yn fyfyriwr, yn tynnu lluniau fel hobi, yn ffotograffydd cymunedol neu’n un proffesiynol, profiadol – os oes gennych chi luniau sy’n bwysig i chi, fe fyddem ni wrth ein boddau’n eu gweld.
Mae croeso arbennig i gyflwyniadau gan unigolion a chymunedau sydd heb lawer o gynrychiolaeth ym maes ffotograffiaeth a’r celfyddydau’n fwy eang, sy’n cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
Ffotograffwyr sy’n ferched neu’n anneuaidd
Unigolion creadigol LHDTCRhA+
Artistiaid anabl
Pobl croenliw
Ffotograffwyr dosbarth gweithiol ac incwm isel
Rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig, diarffordd neu arfordirol
Artistiaid heb addysg ffurfiol na phrofiad blaenorol o arddangos
’Does dim angen CV hirfaith na datganiad artist yn llawn geiriau mawr arnoch chi – dim ond lluniau da a pharodrwydd i’w rhannu.
Os nad ydych chi erioed wedi arddangos o’r blaen, dyma’r lle perffaith i ddechrau.
AM BETH RYDYM NI’N CHWILIO:
’Does dim thema benodol – a dim ffordd gywir nac anghywir i weld, a dyna’r pwynt.
Rydym ni’n chwilio am luniau sy’n:
Siarad o’r galon neu’n ennyn sgwrs
Dangos y byd i ni o’ch safbwynt chi
Archwilio’r rhyfedd, y rhyfeddol, yr anghofiedig a’r cyffredin
Herio confensiynau gweledol neu’n dathlu harddwch oesol
Gwneud i ni deimlo rhywbeth
Rydym ni’n fodlon derbyn gwaith o bob genre a dull ffotograffig, gan gynnwys:
Ffotograffiaeth stryd, ddogfennu neu groniclo
Portreadau neu hunanbortreadau
Naturiol a thirluniau
Bywyd llonydd neu haniaethol
Arbrofol, amgen neu gysyniadol
Ffotograffiaeth analog, ddigidol, hybrid neu symudol
Mae croeso i bopeth…
Rydym ni’n chwilio am ffotograffiaeth sy’n gwneud i ni oedi, meddwl, teimlo, cysylltu. Dangoswch i ni beth sy’n bwysig i chi – a helpwch eraill i weld y byd drwy eich llygaid.
BETH I’W DDISGWYL
Bydd gwaith sy’n cael ei ddewis yn cael ei arddangos yn rhan o sioe grŵp AGOR DY LYGAID yn ystod Gŵyl Ffotograffiaeth Northern Eye 2025, sy’n cael ei chynnal 03–31 Hydref mewn lleoliad sydd ar agor i’r cyhoedd ym Mae Colwyn.
Fe fyddwch yn arddangos mewn gŵyl sydd â rhaglen amrywiol o ffotograffwyr rhyngwladol enwog, sgyrsiau, gweithdai, dangosiadau ar sgrin a digwyddiadau cymunedol – ac yn rhan o rywbeth mwy: dathliad o ffotograffiaeth sy’n agored, yn hygyrch ac wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y gymuned.
Bydd rhai sy’n cymryd rhan yn:
Arddangos yn un o wyliau ffotograffiaeth mwyaf bywiog ac egnïol Prydain
Gweld eu gwaith wedi’i argraffu a’i arddangos yn broffesiynol
Cael eu cynnwys mewn arddangosfa gyhoeddus sydd wedi’i churadu’n broffesiynol
cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, yn cynnwys rhai sy’n ymweld â’r ŵyl, curadwyr, golygwyr, pobl yn y maes a’r wasg.
Helpu i siapio’r arddangosfa gyntaf o’i math yn yr ŵyl, gyda’r gobaith y bydd i’w gweld yn rheolaidd ynddi yn y dyfodol
YNGLŶN Â’R ŴYL
Mae Gŵyl Ffotograffiaeth Northern Eye yn ddathliad o ffotograffiaeth sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd ym Mae Colwyn ar arfordir y gogledd. Mae’n dwyn rhaglen arbennig ynghyd o siaradwyr, arddangosfeydd, sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau cyhoeddus, sy’n cynnig lle i drafod, arbrofi a chyfnewid syniadau creadigol – a’r cyfan wedi’i gynllunio i fod yn agored, hygyrch a chroesawgar.
Rydym ni’n falch o fod wedi cael ein galw “yr ŵyl ffotograffiaeth fwyaf cyfeillgar yn y bydysawd” – a gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni i gael gweld pam.
CIPOLWG AR Y MANYLION PWYSIG
🕛 DYDDIAD CAU I GYFLWYNO: HANNER NOS, 31 AWST 2025
🖼️ ARDDANGOSFA AR AGOR: 03–31 HYDREF 2025
💷 YMGEISIO AM DDIM | £5 O FFI AM BOB LLUN SY’N CAEL EI DDEWIS
📍 LLEOLIAD SYDD AR AGOR I’R CYHOEDD YM MAE COLWYN
👉 CYFLWYNWCH EICH GWAITH ISOD:
Gofalwch fod enw pob ffeil yn cynnwys eich enw chi a theitl i’r llun:
Er enghraifft: Paul Sampson-Pier Bae Colwyn.jpg
💷 Cyflwyno / Ymgeisio AM DDIM | £5 o gost gynhyrchu am bob llun sy’n cael ei ddewis
Cyflwyno hyd at 5 llun (JPG, uchafswm o 10MB yr un)
Cynnwys bywgraffiad artist byr (uchafswm o 150 gair)
Cynnwys disgrifiad byr o’ch gwaith
Dyddiad cau: Hanner nos, 31 Awst 2025
Os bydd eich gwaith yn cael ei ddewis, bydd angen talu ffi o £5 y llun i gyfrannu at y gost o argraffu a gosod. Tîm yr ŵyl fydd yn rheoli’r holl waith cynhyrchu – nid oes angen i chi ddarparu copi print.
Os yw cost yn rhwystr i chi, cysylltwch â ni yn gyfrinachol – rydym ni’n ymroi i alluogi pawb i gymryd rhan.
ANGEN CYMORTH?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, os ydych angen y wybodaeth yma mewn fformat arall, neu angen cymorth gyda mynediad neu gyflwyno, cofiwch gysylltu â ni. Rydym ni yma i’ch helpu.