An Ordinary Eden - Margaret Mitchell

ARDDANGOSFA YR ŴYL

Location: 26 Station Road, baE COLWYN

AR AGOR: 4 HYDREF - 31 HYDREF 2025

©Margaret Mitchell

Mae An Ordinary Eden yn myfyrio am yr angen cyffredin i berthyn, plannu gwreiddiau a bod â chyswllt â phobl a lle.

Mae’r profiadau hyn yn aros yn gudd oddi wrth y mwyafrif. Profiadau ansicrwydd, ansefydlogrwydd, cefnogaeth annigonol sy’n niweidio bywydau. Yn y gwaith hwn, mae unigolion ar draws yr Alban yn cynnig cipolwg ar ôl-effeithiau ymarferol a seicogymdeithasol profiadau byrhoedolog ac ansicr o ‘gartref’.

Roedd gan bawb y tynnwyd ffotograffau ohonynt wahanol straeon am dai a chartref. Roedd gan bob un wahanol lwybrau a ddaeth â nhw i’w presennol, gyda hanes amlhaenog, cymhleth ac amrywiol. Mae stori ym mhob person am ailadeiladu a gwaredigaeth, o adael gorffennol i ffurfio dyfodol newydd. Ochr yn ochr â hyn mae cydnabyddiaeth o’r effaith mae eu profiadau wedi’i gadael arnynt wrth iddynt geisio creu gwreiddiau a pherthyn unwaith eto.

Nid yw syniad pob unigolyn o ‘gartref’ yn ddymuniad am senario delfrydol o’r dyfodol, ffantasi anghyraeddadwy. Yn hytrach, yr arferol, y dydd i ddydd a geisir: diogelwch, sefydlogrwydd. Mae’r gwaith hwn wedi’i wreiddio mewn apêl i’n dynoliaeth sylfaenol, ein trugaredd. Bod effaith bod heb gartref – yn yr holl ffyrdd y gall hynny ddigwydd – yn cael ei deall nid yn unig mewn modd ymarferol uniongyrchol, ond hefyd ar lefel emosiynol. Yr angen i berthyn a chael cyswllt ystyrlon ag eraill. Dylem oll allu gwneud hynny mewn cymdeithas sy’n malio, mewn cymdeithas sy’n gweithio i bawb. 

Nid chwilio am iwtopia yw hyn, ffantasi anghyraeddadwy. Y dymuniad syml am fywyd rheolaidd. Chwilio am Eden Gyffredin pob unigolyn.

“Lle’r ydw i eisiau mynd?
Rhywle ychydig gwell na fan hyn”

Cyfieithiad o ddyfyniad gan Michael 

Cafodd An Ordinary Eden Margaret Mitchell ei greu dros bedair blynedd o ymgysylltiad parhaus. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n cyfarfod, cyfweld a thynnu ffotograffau o unigolion ar draws yr Alban oedd â phrofiadau presennol neu brofiadau yn y gorffennol o ddigartrefedd. Mae eu straeon yn datgelu amrywiaeth achosion a’r blynyddoedd a dreuliwyd mewn sefyllfaoedd ansefydlog oherwydd nad oedd tai a chefnogaeth yn ddigonol. Ond mewn caledi, yn aml byddai cadernid dwfn yn cael ei weld. I rai, arweiniodd hyn at weithio gyda Shelter hefyd i amddiffyn hawliau o ran tai, i helpu’r rhai mewn sefyllfaoedd yr oedden nhw wedi bod ynddynt eu hunain.


©Margaret Mitchell

www.margaretmitchell.co.uk

All festival exhibitions are FREE to visit.