The Greenhouse project - Calum Heywood
ARDDANGOSFA YR ŴYL
LLEOLIAD: TBC
AR AGOR: 3 HYDREF - 31 HYDREF 2025
©Calum Heywood
Mae’r Prosiect Tŷ Gwydr yn rhan o’r gwasanaeth Natur a Lles y mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Gaerhirfryn yn ei gynnal ledled y sir. Mae’r prosiect yn defnyddio gweithgareddau ym myd natur i hybu iechyd corfforol a meddyliol cadarnhaol ac i feithrin cymunedau cryf sy’n cydfyw’n gytûn â byd natur. Cymerodd y prosiect feddiant o’r Tai Gwydr anghyfannedd ym Mharc Witton yn 2021, ac mae wedi denu gwirfoddolwyr i fynd ati i’w trawsnewid yn ased cymunedol er mwyn galluogi pobl i dyfu bwyd a phlanhigion sy’n denu bywyd gwyllt.
Tynnwyd y ffotograffau rhwng 2023 a 2025, a nod y prosiect yw cofnodi’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn y Tai Gwydr drwy bortreadau a ffotograffau o’r lle, gan archwilio treigl y tymhorau, y defnydd o’r lle a chydberthynas pobl.
Dychwelwyd y gwaith i’r ardal yn ddiweddarach fel rhan o arddangosfa dros dro a lansiad Cylchgrawn a oedd yn rhan o ddigwyddiad dathlu Hirddydd Haf.
Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.