Where The Carneddau Meets The Sea - MIKE ABRAHAMS
ARDDANGOSFA YR ŴYL
LLEOLIAD: 24 Station Road
AR AGOR: 3 HYDREF - 31 HYDREF 2025
© Mike Abrahams
“Yn 1941, fe wnaeth fy Mam ddianc bomiau Lerpwl i aros gyda Maia a John Davies ym Mhenmaenmawr a roddodd diogelwch a chariad iddi. Roeddent fel rhieni iddi, a nain a thaid i minnau. Fe dreuliais ddyddiau hapusaf fy mhlentyndod gyda nhw a chwaer Maia, Lyn Jones yn ystod yr 1950au a’r 1960au.”
“Yn 2024, fe wnes i ddychwelyd i Benmaenmawr gyda’r bwriad o gofnodi bywyd yn y pentref a’r ardal gyfagos gyda fy nghamera.”
Penmaenmawr, gyda’r cloc chwarel sydd bellach ar stop; lle’r oedd unwaith lanfeydd yn ymestyn i’r môr a lle byddai’r llongau’n dod i gludo’r cerrig.
Y mynydd folcanig lle naddwyd bwyelli carreg yn yr Oes Neolithig ac a gloddiwyd wedyn am y gwenithfaen unigryw gan gyflogi dros 1,000 o ddynion, bellach wedi gostwng i 20.
Yr A55, lle’r oedd y promenâd hir a llydan yn sefyll gynt. Y cytiau traeth a’r maes chwarae a fu yma, a chaffi Sambrook a oedd yn gweini hufen iâ i ni, ac yn cynnig adloniant gyda’i oriel saethu a’i jiwc-bocs.
Y rhai cefnog a ddaeth yn ail hanner y 19eg ganrif, wedi’u hysbrydoli gan y Prif Weinidog Gladstone, a ddewisodd Penmaenmawr fel ei noddfa.
© Mike Abrahams
Dwygyfylchi, unwaith yn gartref i ddwy fryngaer a bellach i’r ‘Dwygy Dashers’.
Mynyddoedd y Carneddau lle mae’r defaid a’r merlod gwyllt ar grwydr.
Y gwenithfaen sy’n derfyn rhwng y ddau bentref gyda’r ddau drwyn sy’n ymwthio i’r môr ar bob pen i’r arfordir a’r Carneddau y tu ôl iddynt sy’n diffinio’r lle hwn.
© Mike Abrahams
Rydym wrth ein boddau’n cael rhannu detholiad o waith newydd Mike yng Ngŵyl y Northern Eye.
Dechreuodd Mike Abrahams ei yrfa fel ffotograffydd llawrydd yn 1975. Mae wedi gweithio’n rheolaidd ar aseiniadau i bapurau newydd a chylchgronau blaenllaw ym Mhrydain, Ewrop ac America. Yn eu plith mae The Times, The Observer Magazine, The Independent Magazine, Sunday Times Magazine, The Telegraph newspaper and Magazine. L”Express, Le Monde a Liberation yn Ffrainc, Der Spiegel and Stern yn yr Almaen, Fortune and Forbes yn UDA.
Yn 1981, daeth yn gyd-sylfaenydd Network Photographers, grŵp o ffoto-newyddiadurwyr ifanc oedd yn cyfuno eu hadnoddau gyda’r nod o ddogfennu’r byd o’u cwmpas a chefnogi’r naill a’r llall yn eu hymdrechion i gynhyrchu gwaith dogfennu cymdeithasol cyfareddol.
Mae Mike Abrahams wedi cynhyrchu llawer iawn o waith ym Mhrydain, Gogledd Iwerddon, y Dwyrain Canol, Affrica, India a Chyprus. Rhoddodd sylw i gwymp Comiwnyddiaeth ym Mwlgaria, Romania, Bosnia, a’r Chwyldro Melfed yn Tsiecoslofacia.
Rhoddodd ei waith “Faith” sylw i ymroddiad Cristnogol drwy 14 gwlad a dyfarnwyd gwobr World Press Photo Award, Daily Life iddo amdano.
Yn 2024, cyhoeddwyd ei lyfr “This Was Then” gan Bluecoat Press
Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.