UNBROKEN.SOLUTIONS - MARK PHILLIPS

ARDDANGOSFA YR ŴYL

LLEOLIAD: TBC

AR AGOR: 1 HYDREF - 31 HYDREF 2025


Unbroken.Solutions: Recovered copper and metals after 'burning' electronics ©Mark Phillips

Mae unbroken.solutions yn brosiect sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd atgyweirio ac ail-ddefnyddio fel rhan o gymdeithas gynaliadwy.

Roeddem yn arfer gwerthfawrogi ein ‘pethau’.  Roeddent yn werthfawr.  Roeddent wedi’u creu o adnoddau prin gydag oriau maith o waith dynol. 

Ond mae’r cyfuniad o ddiwylliant prynu a masgynhyrchu wedi arwain at ‘bethau’ gyda chyfnod oes llai, llai o werth iddynt ac sy’n anoddach eu trwsio ac felly yn anoddach parhau i’w defnyddio.  I wneud pethau’n waeth, mae ein gallu i drwsio’r pethau hyn wedi pallu, gyda mynediad cyfyngol at wybodaeth, sgiliau’n cael eu colli, ac ymagwedd dylunio cynnyrch gyda thechnoleg wedi’i fewnblannu sy’n cyfyngu’r gallu i’w atgyweirio.  

Nid yw’r fframweithiau cyfreithiol yn cefnogi’r hawl i atgyweirio eich pethau eich hun yn llwyr chwaith, er y bu rhai newidiadau diweddar.

Unbroken.Solutions: Fixing Factory, Camden, UK ©Mark Phillips

Gan fynd i’r afael â’r heriau hyn, mae’r prosiect hwn yn cymryd ymagwedd adeiladol neu ddatrysiadau; i nodi a tharo goleuni ar yr atgyweirwyr, ail-ddefnyddwyr, ymgyrchwyr a darparwyr datrysiadau, fel esiamplau.   Mae gennym sawl datrysiad eisoes; dim ond gweithredu sydd angen.

Unbroken.Solutions: Repair Cafe, Reading, UK ©Mark Phillips

Gan fynd i’r afael â’r heriau hyn, mae’r prosiect hwn yn cymryd ymagwedd adeiladol neu ddatrysiadau; i nodi a tharo goleuni ar yr atgyweirwyr, ail-ddefnyddwyr, ymgyrchwyr a darparwyr datrysiadau, fel esiamplau.   Mae gennym sawl datrysiad eisoes; dim ond gweithredu sydd angen.

ReTuna is a shopping mall in Eskilstuna, Sweden, which exclusively sells second hand and recycled goods. It is situated next to the town's recycling center. ©Mark Phillips

Y nod gyffredinol yw dangos sut y gallwn wneud gwell defnydd o’r hyn sydd gennym a chreu dyfodol sy’n fwy cynaliadwy.

https://unbroken.solutions


Mae MARK PHILLIPS yn ffotograffydd dogfen.  Mae ei waith yn cofnodi straeon am gymdeithas, yr amgylchedd a chynaliadwyedd, a’r rhai sy’n gweithio i ganfod datrysiadau i’n heriau presennol. 

Mae prosiectau diweddar yn archwilio’r argyfwng hinsawdd a phwysigrwydd rhannu, atgyweirio ac ail-ddefnyddio fel ymateb i greu dyfodol sy’n fwy cynaliadwy.  Fel rhan o’r prosiect atgyweirio cynhaliodd ymgyrch i hysbysu cynghorau, awdurdodau lleol a’r llywodraeth am bwysigrwydd cefnogi rhannu ac atgyweirio.  Mae ei waith hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eiriolaeth atgyweirio a’r ‘Hawl i Atgyweirio’.

Mae’n gweithio ar brosiectau ar hyn o bryd sy’n archwilio ffiniau a chlofannau cenedlaethol sy’n weddill yn Ewrop, fel naratif aml-haenog i archwilio cymhlethdod y clytwaith o diriogaethau o ran eu daearyddiaeth, symbolaeth, afresymoldeb a phobloedd.

Mae wedi’i gyhoeddi ar-lein ac mewn print mewn sawl prif bapur newydd a chylchgronau (gan gynnwys BBC News, papur newydd ‘I’, Observer, Zeke, La Repubblica). Mae ei waith wedi’i ddangos mewn gwyliau ac arddangosfeydd yn y DU, yr Eidal, yr Iseldiroedd a’r UDA. 

Mae ei astudiaethau wedi mynd o beirianneg i PhD yn ymchwilio ecosystemau cymhleth. Mae Mark yn Gymrawd yn y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol ac yn aelod o’r Photobook Club Collective.

www.markaphillips.co.uk

Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.