The EDGE OF RUIN - MARC WILSON
ARDDANGOSFA YR ŴYL
LLEOLIAD: TBC
AR AGOR: 1 HYDREF - 31 HYDREF
The Edge of Ruin ©Marc Wilson
Rydym ni’n falch o groesawu Marc Wilson yn ôl i The Northern Eye lle bydd detholiad o’i waith newydd ‘The Edge of Ruin’ yn cael ei arddangos am y tro cyntaf.
Ar ôl ymgyrch Kickstarter lwyddiannus, disgwylir i’w lyfr newydd gael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2025.
The Edge of Ruin ©Marc Wilson
Er bod olion mwy amlwg ein hetifeddiaeth ddiwydiannol, yr adeiladau sy’n rhan o’n gorffennol diwydiannol, yn adfeilio yn y dirwedd y cawsant eu codi (oni bai eu bod nhw’n cael eu cadw'n fwriadol ar gyfer treftadaeth), neu ein bod ni yn eu difetha, yn y tirweddau ffisegol eu hunain yr erys yr argraff barhaus o’r gorffennol hwn.
The Edge of Ruin ©Marc Wilson
Wrth i mi gerdded o gwmpas y safleoedd cyntaf hyn a’r camera yn dal i fod yn fy mag, yr hyn a ddaeth yn amlwg i mi yn syth oedd bod angen i mi edrych y tu hwnt i'r adeiladau sydd ar ôl, yr adeiladau hyn a adeiladwyd gan ddynion, ac yn lle hynny canolbwyntio ar y dirwedd ffisegol yr oedd diwydiant wedi gadael ei ôl parhaus arni, ac osgoi clichés o ran hiraethu a rhamantu.
The Edge of Ruin ©Marc Wilson
Mae agen wedi'i cherfio o'r bryniau yn y Pennines a chyfres o gribau ar lethr sy'n wynebu'r gorllewin o Foel yn Dartmoor yn enghreifftiau o gysgodion ein gorffennol diwydiannol, yn nodau i genedlaethau'r dyfodol gyfeirio atynt.
The Edge of Ruin ©Marc Wilson
Marc Wilson
Cafodd Marc ei eni yn Llundain, fe aeth o astudio Cymdeithaseg i astudio Ffotograffiaeth ac mae wedi bod yn tynnu lluniau ers hynny. Mae ei luniau’n dogfennu’r atgofion, yr hanesion a’r straeon sydd yn y dirwedd o’n hamgylch.
Mae Marc, sydd wedi’i leoli yn y DU, yn gweithio ar brosiectau dogfennol hirdymor, yn cynnwys ‘A Wounded Landscape - bearing witness to the Holocaust’ (2015-2021) a ‘The Last Stand’ (2010-2014). Ei nod yw adrodd hanesion drwy ffotograffiaeth, gan ganolbwyntio, ar adegau, ar y dirwedd ei hun, a’r gwrthrychau y mae’n eu canfod arni ac ynddi. Mae weithiau’n cyfuno tirwedd, elfennau dogfennol, portreadau, a bywyd llonydd, ynghyd â recordiadau sain o gyfweliadau a synau, i bortreadu’r we eang o hanesion a straeon y mae’n gobeithio eu hadrodd.
Mae ei arddangosfeydd unigol yn cynnwys Oriel Side yn Newcastle, yr Amgueddfa Arfdai Frenhinol, Oriel Colwyn, ac Oriel Focal Point yn y DU a Spazio Klien yn yr Eidal. Mae ei sioeau grŵp yn cynnwys y rhai hynny yn Oriel The Photographers’, ac oriel Cymdeithas y Ffotograffwyr, Llundain ac yn rhyngwladol, Gŵyl Ffotograffau Athens ac Amgueddfa Gelf Tel Aviv.
Mae gwaith Marc wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion a chylchgronau yn amrywio o National Geographic, FT Weekend, The British Journal of Photography i Gylchgronau Raw, Wired a Dezeen.
Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.
THE EDGE OF RUIN
Dyddiad cyhoeddi’r llyfr - mis Hydref 2025
Manylion y gwaith:
124 o dudalennau - Argraffu lithograffig - 57 o luniau - Testun ymchwil - Cynllun: Wayne Ford
Wedi hunan-gyhoeddi