NOW DOLGARROG - Mark Mcnulty

ARDDANGOSFA GŴYL SATELLITE

LLEOLIAD: COG (Conway Road, Dolgarrog, LL32 8JS)

AR AGOR: 3 HYDREF - 8 TACHWEDD 2025. (DIGWYDDIAD LANSIO - 11 HYDREF: 2PM)


©Mark McNulty

Dechreuodd Mark McNulty ar ei yrfa yng nghanol yr 1980au, gan dynnu lluniau pobl o’i amgylch tra’n ceisio gwneud synnwyr o’r byd fel ffotograffydd ifanc.  Fe dynnodd Mark luniau o gerddorion ac artistiaid, rêfwyr, ‘seicobilis’ a phlant ‘indie’ - a thrwy dynnu lluniau o’r cymunedau hynny, fe dreuliodd llawer o’r ugain mlynedd nesaf yn tynnu lluniau o bartïon, gwyliau, a digwyddiadau cerddorol a diwylliannol o amgylch y byd.

Mae Mark bellach wedi’i leoli yng ngogledd Cymru, yn Nyffryn Conwy, ac mae Now Dolgarrog yn ddathliad o’r pentref y mae o bellach yn rhan ohono.   Y bobl mae o wedi’u cyfarfod ers byw yno, ei dirwedd, a manylion beunyddiol pentref sydd yn mynd drwy newidiadau.   

©Mark McNulty

Pentref tawel yw Dolgarrog sydd wedi’i leoli wrth droed bryn serth.

Mae rhai’n credu bod ochr y bryn yn edrych yn debyg i ddraig sy’n cysgu, ac yn ôl llên gwerin, mae’r enw’n deillio o Y Garrog, sef draig chwedlonol oedd yn gallu hedfan. Ond mewn gwirionedd, daw Dolgarrog o’r gair ‘dôl’ a charrog ‘llif’. Felly mae’r pentref wedi cael ei enwi ar ôl ei berthynas â dŵr, ac mae’r cysylltiad hwnnw yn parhau i effeithio’r pentref yn ddyddiol.

Bob pen i bentref Dolgarrog mae yna safle trin dŵr gwastraff a gorsaf bŵer hydrodrydan, ac yn y canol mae yna westy a chanolfan hamdden wedi’u hadeiladu o amgylch llyn gwneuthuredig. Gweithfeydd alwminiwm arferai fod ar y safle, sef ffatri a chwaraeodd rôl hollbwysig yn adeiladu nifer o dai’r pentref.  Roedd ganddo ei glwb cymdeithasol ei hun ac yn cyflogi nifer o’r pentrefwyr.

Fe adeiladodd y gweithfeydd argaeau Eigiau a Choedty yn y bryniau uwchben Dolgarrog. Yn 1925 fe ddymchwelodd rhan o un ohonynt, gan achosi llif dinistriol a hawliodd 16 o fywydau.   Ar 2 Tachwedd eleni, rydym ni’n cofio’r digwyddiad trasig yma tra’n myfyrio ar y pentref fel y mae rŵan.  Felly mae Mark wedi bod yn tynnu lluniau rhai o’r bobl y mae’n eu gweld yn chwarae rhan yn ei Ddolgarrog o.   Y bobl mae o wedi’u cyfarfod wrth gerdded o amgylch y pentref, y perchnogion siop, y trinwyr gwallt, ei gymdogion diwydiannol, yr artistiaid a’r gwneuthurwyr, y bobl sy’n trwsio ac yn adeiladu’r llwybrau newydd drwy’r coetiroedd ac yn adfer hen reilffyrdd.  Er nad ydyw wedi dod ar draws ‘seicobilis’ eto, mae hi dal yn ddyddiau cynnar…

©Mark McNulty

©Mark McNulty


Yn wreiddiol o Lerpwl, mae Mark McNulty yn ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau sydd wedi'i leoli yng ngogledd Cymru.  Fe ddechreuodd arni ddiwedd yr 1980au yn dogfennu’r sîn ‘rave’, ac mae’r archif hwnnw wedi cael ei ddathlu’n ddiweddar gan Archif Diwylliant Prydain, Llyfrau Café Royal, ac Oriel Open Eye ymysg eraill, ac yma yn Oriel Colwyn fe wnaethom gynnal arddangosfa oedd yn edrych yn ôl ar ei archif o waith cerddorol mewn sioe o’r enw ‘35 Summers’.

Mae prosiectau archif eraill ar y gweill, tra y bydd llyfr o’r enw ‘In Clubland’ yn cael ei gyhoeddi yn 2026 gan Modern Sky. Yn ddiweddar, fe weithiodd Mark ar brosiectau BayView gydag Oriel Colwyn, archif blwyddyn o hyd i ddogfennu pobl Bae Colwyn (a arddangoswyd yng Nghoed Pella, Oriel Colwyn a Phorth Eirias), tra’n gweithio ar sawl prosiect personol arall yng ngogledd Cymru. 

www.markmcnulty.co.uk

All festival exhibitions are FREE to visit.