WHAT WE DON’T SEE, UNLESS WE LOOK

SIOE GRŴP, GYDAG ETHAN BESWICK, ROLF KRAEHENBUEHL A ROBERT LAW

ARDDANGOSFA YR ŴYL

LLEOLIAD: Library Foyer

AR AGOR: 4 HYDREF - 31 HYDREF 2025


Yr hyn nad ydym yn ei weld – oni bai ein bod yn edrych.

Ydy, mae’n swnio’n amlwg, ond ydym ni, mewn difrif, yn edrych? Ydym ni, mewn difrif, yn sylwi?

Mae ein hamgylchoedd – naturiol ac o waith dyn – yn rhoi gwybod i ni yn gynnil beth yw ein cartref, gogledd Cymru. Mae’n bosibl y bydd yr ymwelydd yn ceisio gweld y gwahaniaethau, y cymeriad neu, efallai, y stereoteipiau a allai ffurfio’r ‘argraff gyntaf’ hollbwysig. Mae’n bosibl bod unigolyn lleol mor gyfarwydd â’i gynefin, fel ei fod yn naturiol yn dechrau ei gymryd yn ganiataol.

©Rolf Kraehenbuehl

Ond i bawb, hynodrwydd, hiwmor neu hyd yn oed gyffredinedd ydy’r hyn y mae tri ffotograffydd dogfennol wedi ei gofnodi yng nghwmni ei gilydd wrth grwydro trefi, pentrefi a chefn gwlad yn lleol dros gyfnod o ychydig flynyddoedd. Ar bob taith gerdded rydym yn gwau edafedd drwy ein hamgylchoedd, cysylltu rhannau a chreu profiadau personol, meithrin deialog rhwng y byd allanol a’n byd mewnol.

©Robert Law

Mae ein hamgylchedd agos yn newid – drwy ddatblygiadau newydd, ailddatblygu strwythurau presennol neu, yn syml, drwy dreigl amser. Teimlwn ei bod yn bwysig dogfennu’r amgylchoedd a rennir gennym – nid adeiladau, corneli strydoedd a blaen siopau’n unig, ond hefyd y manylion tawel – drwy ddelweddau.

© Ethan Beswick

Heddiw, mae ffotograffiaeth yn wirioneddol ddemocrataidd – mae gan bob un ohonom ffonau â chamera yn ein poced. Ewch am dro yn eich cynefin. Beth ydych chi’n ei weld pan fyddwch yn edrych o ddifrif?

Ethan Beswick  Rolf Kraehenbuehl  Robert Law

Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.