WHERE THE SOUL LIVES - Emily Hulme
ARDDANGOSFA YR ŴYL
LLEOLIAD: TBC
AR AGOR: 3 HYDREF - 31 HYDREF 2025.
©Emilli Hulme
Ers dros ddegawd, mae cymuned effro wedi dod at ei gilydd ar dir cysegredig yng Nglyndyfrdwy, Corwen - Tir ble mae cerddoriaeth, defod, perthynas a chariad yn gwreiddio. O amgylch y tân ac mewn dŵr, drwy gân, stori a dathliad, maen nhw’n dychwelyd dro ar ôl tro, gan glymu eu hunain i’r tir ac i’r naill a’r llall. Mae’r gymuned yn cynnwys pobl o bob lliw a llun - o Ogledd Cymru i ddringwyr o Ganada, rhai sy’n gweithio o 9 dan 5 a rhai sy’n byw mewn ogof, mae’r tir hwn yn gartref i bawb.
Mae’r prosiect hwn yn dechrau archwilio eu siwrnai, gan ganolbwyntio nid yn unig ar yr hyn sydd i’w weld, ond yr hyn sydd i’w deimlo. MaeLle i enaid gael llonydd yn wahoddiad i brofi presenoldeb ysbryd ac ymwybyddiaeth mewn cymuned ar dirwedd Cymru - i’n hatgoffa bod yr enaid yn trigo ddyfnaf ble rydym yn dod at ein gilydd, yn perthyn ac yn dychwelyd iddo.
©Emily Hulme
Dros amser, bydd y prosiect yn dilyn aelodau’r gymuned i’w ffordd o fyw arferol, gan archwilio eu perthynas ag ymwybyddiaeth y tu hwnt i’r tir yng Nglyndyfrdwy, gan ofyn beth maen nhw wedi’i gael wrth adael y tir - pa wersi a ddysgwyd? Pa iachâd sydd wedi digwydd? Pa gysylltiadau newydd a wnaed?
Ble mae eich enaid chi’n byw?
Ganed Emily Hulme yng Ngogledd Cymru, ac oddi yma mae’n gweithio. Mae wedi bod yn ffotograffydd brwd ers etifeddu camerâu analog ei thaid - rhywbeth a newidiodd cwrs ei bywyd.
Wedi gadael y coleg i weithio yn y gwasanaeth iechyd meddwl, nid oedd ganddi gymwysterau na phrofiad mewn ffotograffiaeth na churadu, a chymerodd naid i’r tywyllwch pan hysbysebwyd swydd wag yn Oriel Colwyn ar ei hysbysfwrdd lleol.
Mae gweithio gydag Oriel Colwyn wedi rhoi cyfle i Emily gyfarfod ffotograffwyr byd enwog a gweithio gyda nhw, ac mae wedi ehangu ei syniadau am ffotograffiaeth yn barhaus. Fe’i hysbrydolwyd gan waith un sydd wedi arddangos ei gwaith yng ngŵyl y Northern Eye yn y gorffennol, Amanda Jackson, ac un sydd wedi siarad yn TalkPhoto, Sian Davey ynghyd â llawer mwy. Mae gwaith Emily wedi dechrau blodeuo i gyfuniad o ffotograffiaeth ddogfennol, portreadaeth a ffotograffiaeth sy’n cael ei lywio’n ysbrydol.
Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.