ZIMMERS OF SOUTHALL - HARK1KARAN

ARDDANGOSFA YR ŴYL

LLEOLIAD: Bay View Shopping Centre

AR AGOR: 7 HYDREF - 31 HYDREF // 10AM-4PM (M0N-SAT)


Zimmers of Southall 1 (2020-21) ©Hark1karan

Mae bywyd yn mynd yn fwy a mwy digidol ac awtomatig, sydd yn gwneud llawer o bethau’n haws. Ond gall hefyd or-gymhlethu ein penderfyniadau a chuddio hwyl y profiad analog.

Mae cerbydau’n enghraifft berffaith o’r symudiad hwn. Mae gyrru heddiw o gymharu âchenhedlaeth yn ôl yn fwy llyfn ac awtomatig,  ond i lawer o bobl sy’n hoff iawn o gerbydau a gyrru, mae gormodedd o declynnau electronig yn tynnu oddi wrth y mwynhad sylfaenol. Ers degawdau felly mae gwerthfawrogiad o gerbydau clasurol wedi bod yn tyfu ar draws y byd.

Mae gan bob cymdogaeth ei his-ddiwylliant cynnil ei hun.

Ym mis Chwefror 2022 gwelwyd cerbydau BMW mewn goleuni newydd wrth i’r rhaglen ddogfen Zimmers of Southall gael ei rhyddhau. Wedi’i chyfarwyddo gan y ffotograffydd cymunedol Hark1karan a’i chynhyrchu gan y gwneuthurwr ffilmiau Alex Donaldson. Mae’n rhoi ciplun personol iawn o gymuned Punjabi Southall drwy lens ei chasglwyr ceir, gan edrych ar hanes cyfoethog mewnfudo yn yr ardal, hunaniaeth ryng-genhedlaeth a’r diwylliant miwsig Prydeinig.

Zimmers of Southall 1 (2020-21) ©Hark1karan

“Roeddem eisiau dangos beth mae bechgyn arferol, yn enwedig bechgyn Asiaidd, yn ei wneud; chwalu rhai stereoteips penodol a rhoi arlliw i’w bywydau” meddai Hark1karan

“Maen nhw’n fedrus, mae ganddynt nhw angerdd, mae’r car yn lle diogel iddyn nhw fynegi eu hunain, ar y cyd a cherddoriaeth. Un o’r rhesymau y gwnes i ddogfennu hyn yw oherwydd ei fod yn dangos i bobl o wahanol ddiwylliannau, er efallai bod eu diwylliant nhw yn wahanol i’ch un chi, maen nhw’n dal i wneud rhywbeth yr ydych chi’n ei wneud.  Felly gall unigolyn arall o ddiwylliant arall uniaethu â hyn”

Mae’r ffilm wedi cael ei dangos yn y Barbican, y V&A, ac yng Ngwyl Ffilmiau Flatpack yn Brimingham. Cafodd ei chynnwys gan y British Pavilion yn y Venice Biennale 2023 clodwiw fel rhan o ffilm o’r enw Dancing Before the Moon.

Mae’n cael effaith mwy nag yr ydw i’n ei ddeall yn llawn” meddai Hark1karan. ”Mae pobl yn dweud wrtha’i:  ‘Nid ceir ydi’n pethau ni, ond fe wnaethon ni wirioneddol fwynhau’r ffilm’. Dwi wedi sylweddoli rŵan nad y ceir eu hunain sy’n bwysig mewn gwirionedd ond y teimladau maen nhw’n eu rhoi i bobl.

Ychydig fisoedd ar ôl rhyddhau’r ffilm fodd bynnag sylweddolodd Hark1karan nad oedd y stori’n gyflawn o hyd. “Pan ‘da chi allan yn Southall ‘da chi’n sylwi bod merched hŷn ac iau yn gyrru BMWs hefyd” meddai. Felly fe ofynnodd yn y cyfryngau cymdeithasol i ferched sy’n gyrru ceir BMW  gysylltu ag o. Cafodd ymateb aruthrol. Yn fuan iawn dechreuodd o a Donaldson gynllunio ar gyfer Zimmers of Southall 2

Zimmers of Southall 2 (2023) ©Hark1karan

Yn y Zimmers, cyntaf, cymeriadau gwrywaidd sy’n canolbwyntio ar eu cariad tuag at beirianneg a gyrru. Ond gan ddathlu’r un ethos o etifeddiaeth wasgarog mae Zimmers 2 yn taflu goleuni newydd ar themâu fel annibyniaeth a diogelwch merched y tu ôl i’r llyw,  gyda cheir yn rhoi math gwahanol, ond yr un mor bwysig o le diogel iddyn nhw.

Darnau wedi’u cymryd o eiriau Ciaran Thapar ar gyfer  GQ Magazine.

Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.

www.hark1karan.com

Zimmers of Southall 1 (2020-21) ©Hark1karan

Zimmers of Southall 2 (2023) ©Hark1karan