Where The Red Kite Flies - Amanda Jackson

ARDDANGOSFA YR ŴYL

LLEOLIAD: COED PELLA

AR AGOR: DYDD LLUN 7 HYDREF - Dydd Mawrth 31 HYDREF // Amser: TBC


Maia and Mirelle ©Amanda Jackson

Mae’n bleser gennym groesawu’r ffotograffydd Amanda Jackson yn ôl i’r Northern Eye. Roedd Amanda yn siaradwr gwadd yn ein gŵyl gyntaf nôl yn 2017 ac rydym ni’n falch iawn o rannu ei gwaith newydd efo chi.

Yn wreiddiol o Ganada, symudodd Amanda i Brydain yn 2001 ac mae hi’n frwdfrydig dros fyw’n gynaliadwy a materion amgylcheddol.

Mae cyfres ‘Where the Red Kite Flies’ yn canolbwyntio ar y bobl ifanc sydd wedi’u magu ym mhentref eco Tir y Gafel a’r ardal gyfagos yn Sir Benfro.

Mae Amanda wedi bod yn tynnu lluniau o’r pentref eco ers 2010. Rhwng 2013 a 2021 creodd ei chyfres ‘To Build A Home’ a gafodd ei dangos yn Oriel Colwyn yr un pryd â’r ŵyl yn 2017. Roedd yn canolbwyntio ar y bobl a oedd yn byw yn y gymuned, a’r plant bryd hynny yw’r bobl ifanc sy’n rhan o ‘Where the Red Kite Flies’ heddiw.

Gyda dull cydweithio a chwareus, mae’r ffenestr hon i fyd bach yn dathlu ffordd o fyw llai confensiynol, lle mae gan bobl gysylltiad cryf â’r tir.

Mae un o’r bobl ifanc yn disgrifio byw yn y gymuned hon fel magwraeth mewn rhyfeddod gwledig.

Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.

www.amandajaxn.co.uk

Bea and Skye ©Amanda Jackson

Maisie Willow ©Amanda Jackson

Luella in the sky ©Amanda Jackson