Our Time, Our Place - Mentoring Programme

ARDDANGOSFA YR ŴYL

LLEOLIAD: Bay View Shopping Centre

AR AGOR: 7 HYDREF - 31 HYDREF // 10am-4pm (M0n-Sat)


Our Time, Our Place: gwaith sydd ar y gweill gan 8 o ddarpar ffotograffwyr o ogledd orllewin Lloegr.

Fel rhan o’i sioe deithiol boblogaidd, Is Anybody Listening? sy’n cynnwys gwaith o’i gyfresi Bank Top a Thatcher’s Children, mae’r ffotograffydd, Craig Easton yn mentora wyth o ddarpar ffotograffwyr dros gyfnod o ddeuddeg mis a bydd eu gwaith yn cael eu harddangos ochr yn ochr â’i waith ef ym Mhenbedw ym mis Ionawr 2024.

Roedd Craig yn arddangoswr ac yn siaradwr allweddol yn ein gŵyl ddiwethaf yn 2021 ac mae’n bleser ei gefnogi ef a’r darpar ffotograffwyr hyn yn Northen Eye drwy gynnig rhywle iddynt rannu eu datblygiadau gyda chynulleidfa newydd a pharatoi ar gyfer sioe fwy yn Amgueddfa ac Oriel Gelf The Williamson.

Mae bob ffotograffydd yn gweithio ar eu prosiectau unigol eu hunain gan archwilio themâu’n seiliedig ar y gymuned.  Yr arddangosfa hon yng Ngŵyl The Northen Eye fydd y tro cyntaf i’r prosiectau hyn gael eu gweld, ac mae’n gyfle i’r ffotograffwyr ddangos y gwaith sydd ar y gweill ganddynt wrth iddynt baratoi ar gyfer eu harddangosfa derfynol.

Bydd yn cynnwys gwaith gan:

David Contreras Paez

“Rwy’n archwilio’r themâu o gymuned, cyfeillgarwch a pherthyn drwy sglefrfyrddwyr yn Sgwâr Lincoln Manceinion.”

© David Contreras Paez

 

Rachel Beeson

“Mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn gweithredu diwydiannol dros y flwyddyn ddiwethaf.  Mae’r lluniau yn yr arddangosfa’n rhan o brosiect hirdymor, cydweithredol yn dogfennu’r streiciau, o safbwynt y bobl sy’n gysylltiedig â hwy.”

© Rachel Beeson

 

Calum Heywood

“Mae fy mhrosiect i’n archwilio prosiect cymunedol bychan sy’n datblygu yn Blackburn, Sir Gaerhirfryn.   Nod y gwaith yw cyfleu ysbryd tymor sy’n tyfu yn y gofod.”

© Calum Heywood

 

Orrin Whitehead-St.Pierre

“Rwy’n canolbwyntio ar yr amrywiaeth o bobl sy’n byw ar gychod ar hyd ddyfrffyrdd Prydain, gan archwilio perthynas pobl gyda gofod a lle pan mae’r ddau beth mor gyfyngedig a hylifol.”

© Orrin Whitehead-St.Pierre

 

Hellen Songa

“Mae Queer Ecology Silent Spring yn archwilio sut mae natur cwiar yn amlygu ei hun yn y byd dynol a’r byd planhigion.”

© Hellen Songa

 

Julie Thompson

“Mae Paula’n creu dillad wedi’u gwneud â llaw i ferched, gan gyfuno ei chariad at gefn gwlad, hanes lleol a threftadaeth, a hyrwyddo ymagwedd mwy gofalgar ac araf mewn perthynas â dillad.”

© Julie Thompson

All festival exhibitions are FREE to visit.

Is Anybody Listening? Our Time, Our Place is presented by the University of Salford and generously supported by The National Lottery Heritage Fund.