The Land is Yellow, the Sky is Blue - Marc Wilson

ARDDANGOSFA YR ŴYL

LLEOLIAD: Bay View Shipping Centre

AR AGOR: 7 HYDREF - 31 HYDREF // 10am-4pm (Mon-Sat)


©Marc Wilson

The Land is Yellow, the Sky is Blue.

Ffotograffau - Marc Wilson // Geiriau - Anna Nekrasova

“Mae’r glas a’r melyn ar faner Wcráin yn symboleiddio’r awyr las uwchben y caeau gwenith sy’n gorchuddio ein tir.”

“Yn yr iaith Wcreineg, mae gan y cydsyniad o ‘zemlya’ neu ‘dir’ sawl ystyr. Dyma’r diriogaeth a’r ddaear sy’n cael ei thrin gan waith caled y bobl. Dyma’r Famwlad.”

Mae ‘The Land is Yellow, the Sky is Blue’ am Balakliya, pentref bach yng nghanol Wcráin - mamwlad gwraig Marc a’i deulu. Mae’r gwaith yn sail i lyfr dwyieithog yn Saesneg ac Wcreineg sy’n cyfuno’r ffotograffau a dynnodd Marc o’r lle hwn yn 2019-2021 gyda thestun a ysgrifennwyd yng nghysgod y rhyfel presennol.

©Marc Wilson

Maent yn straeon sy’n llawn atgofion hudolus o blentyndod a phryder yn sgil y rhyfel.

Pan gyrhaeddodd Marc y pentref am y tro cyntaf, mwy na blwyddyn ar ôl iddo ymweld ag Wcráin am y tro cyntaf, roedd yr hyn a oedd o’i flaen yn freuddwydiol ac yn gadarn.

©Marc Wilson

Mae Balakliya yn llawn bywyd: mae plant yn dysgu nofio yn yr afon, mae’r anifeiliaid yn cael eu tywys drwy’r pentref i dir pori bob dydd, mae sgyrsiau’n hir a llawn, caiff dŵr ei gasglu o’r ffynnon bob bore, mae prydau yn cael eu coginio â gofal i fwydo gweithwyr cyn diwrnod caled o waith, mae nosweithiau’n cael eu treulio o dan y sêr, gan gerdded adref yn y tywyllwch.

Mae’n gysylltiedig â’r byd tu allan ond nid yw’n agored i’w amhariadau dibwys, mae hanfod bywyd yma yn ei ffurfiau syml a chymhleth.

©Marc Wilson

Mae cynhyrchiad y llyfr hwn wedi cael ei ariannu’n llwyddiannus drwy ymgyrch Kickstarter gyda dros 240 o archebion ymlaen llaw a bydd y llyfr yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref eleni.

Mae ar gael (i’w archebu ymlaen llaw) yma: www.marcwilson.co.uk/book-print-sales/p/theland

Marc Wilson

Cafodd Marc ei eni yn Llundain, fe aeth o astudio Cymdeithaseg i astudio Ffotograffiaeth ac mae wedi bod yn tynnu lluniau ers hynny. Mae ei luniau’n dogfennu’r atgofion, yr hanesion a’r straeon sydd yn y dirwedd o’n hamgylch.

Mae Marc, sydd wedi’i leoli yn y DU, yn gweithio ar brosiectau dogfennol hirdymor, yn cynnwys ‘A Wounded Landscape - bearing witness to the Holocaust’ (2015-2021) a ‘The Last Stand’ (2010-2014). Ei nod yw adrodd hanesion drwy ffotograffiaeth, gan ganolbwyntio, ar adegau, ar y dirwedd ei hun, a’r gwrthrychau y mae’n eu canfod arni ac ynddi. Mae weithiau’n cyfuno tirwedd, elfennau dogfennol, portreadau, a bywyd llonydd, ynghyd â recordiadau sain o gyfweliadau a synau, i bortreadu’r we eang o hanesion a straeon y mae’n gobeithio eu hadrodd.

Mae ei arddangosfeydd unigol yn cynnwys Oriel Side yn Newcastle, yr Amgueddfa Arfdai Frenhinol, Oriel Colwyn, ac Oriel Focal Point yn y DU a Spazio Klien yn yr Eidal. Mae ei sioeau grŵp yn cynnwys y rhai hynny yn Oriel The Photographers’, ac oriel Cymdeithas y Ffotograffwyr, Llundain ac yn rhyngwladol, Gŵyl Ffotograffau Athens ac Amgueddfa Gelf Tel Aviv.

Mae gwaith Marc wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion a chylchgronau yn amrywio o National Geographic, FT Weekend, The British Journal of Photography i Gylchgronau Raw, Wired a Dezeen.

Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.

www.marcwilson.co.uk