FREE PHOTOGRAPHIC OMNIBUS (50th Anniversary) - DANIEL MEADOWS

ARDDANGOSFA YR ŴYL

LLEOLIAD: ARGOS - Bay View Shopping Centre

AR AGOR: 7 HYDREF


‘Daniel Meadows and the Free Photographic Omnibus, a repurposed 1948 Leyland Titan PD1 with Duple coachwork, formerly of Barton Transport, Chilwell, Nottingham. Manchester. September 1973’

Ym 1972, ac yntau’n fyfyriwr yng Ngholeg Polytechnig Manceinion, dechreuodd Daniel Meadows arbrofi gyda ffyrdd o wneud gwaith dogfennol gyda phobl, nid iddynt.

Yn ystod y gwanwyn y flwyddyn honno, yn rhanbarth Moss Side y ddinas, agorodd Daniel siop ffotograffiaeth am ddim, ac roedd yn cynnal sesiynau portread wythnosol ar gyfer y trigolion oedd yn galw heibio. Roedd yn hoff o’r ffordd yma o weithio a’r lluniau yr oedd yn eu creu, gan arwain at ehangu’r prosiect drwy ei wneud yn symudol. Yn gyntaf, roedd angen arian arno.

Treuliodd Daniel fwyafrif y flwyddyn ganlynol yn codi arian, yn derbyn nawdd ac yn gwneud ceisiadau am grantiau, ac erbyn mis Medi 1973, roedd ei ‘Omnibws Ffotograffiaeth am Ddim’ yn barod!

Wrth wraidd y cyfan roedd bws deulawr Leyland Titan PD1 1948 yr oedd Daniel wedi’i brynu am £360 a’i adnewyddu - yn syml, gan nad oedd digon o arian ganddo - fel cartref, oriel ac ystafell dywyll.

Ar 22 Medi 1973, aeth Daniel Meadows ar antur a gynlluniwyd ers tro a dros y 14 o fisoedd a ddilynodd, teithiodd dros 10,000 o filltiroedd ar ei ben ei hun ac ymweld â 22 o drefi a dinasoedd. Roedd yn parcio mewn canolfannau siopa ac ar brif strydoedd, ac roedd Daniel yn cynnig sesiynau portread am ddim i bawb, gan ddatblygu eu lluniau dros nos a’u rhoi iddynt y diwrnod canlynol.

Fe dynnodd lun o 958 o bobl.

‘John Payne, aged 11, with pigeon Chequer and friends the White brothers, Michael and Kalvin, Portsmouth. April 1974. ©Daniel Meadows’

“Meadows was making a different kind of portrait, one more susceptible to the changing cultural climate of the decade, with a greater feeling of collaboration, or at least a sense of the subject controlling the photographer rather than the other way around... Pop-up studios are popular today, but in the 1970s this was a unique initiative.”

- Gerry Badger: Another Country, British Documentary Photography Since 1945, pp. 115 & 156 (Thames & Hudson, 2022)

Mae 22 Medi 2023 yn nodi 50 mlynedd ers dechrau taith fws Meadows, digwyddiad fydd yn cael ei ddathlu gydag arddangosfa yng Centre for British Photography, Llundain (yn agor ar 28 Medi), llyfr newydd Bluecoat Press, tri chyfrwng newydd o Café Royal Books (CRB) a siaradwr gwadd ar gyfer Gŵyl Northern Eye eleni. 

Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.

www.danielmeadows.co.uk

‘James O'Connor and David Balderstone. Barrow-in-Furness, Cumbria. November 1974. ©Daniel Meadows’

‘Circus Hoffman, gorilla act, Weymouth, Dorset. July 1974. ©Daniel Meadows’