Walk & Process
Taith Gerdded Lluniau gydag Eddie Otchere
Digwyddiad Gŵyl
Cyfarfod yn: Oriel Colwyn Gallery
Dyddiad/amser: DYDD GWENER 3 HYDREF: 11.00am - 4pm
Taith gerdded ffotograffiaeth sy’n dechrau yn Oriel Colwyn ac sy'n archwilio tref yr ŵyl gan ymgorffori arferion ffotograffig traddodiadol a gweithredu cymunedol.
Mae’r daith gerdded wedi’i harwain gan y ffotograffydd heb ei ail, Eddie Otchere, ac wedi’i noddi gan Kodak, ac mae’n rhoi cyfle i gyfranogwyr dynnu lluniau gan ddefnyddio rholyn o ffilm du a gwyn, ei phrosesu a'i sganio i'w harddangos, a chreu taflenni lluniau digidol i'w rhannu â'r grŵp yn rhan o archwiliad gweledol o ganfyddiadau'r daith gerdded.
Eddie Otchere ©Holly Cato
Nid oes angen gwybodaeth na sgiliau blaenorol arnoch chi o ran defnyddio ffilm draddodiadol i gymryd rhan, mae croeso i bob lefel o arbenigedd, o ffotograffydd profiadol i ddechreuwr pur, byddwn ni’n eich helpu chi drwy'r gweithdy ac yn rhannu gwybodaeth am ddefnyddio'r camerâu ffilm os oes angen.
Mae'r digwyddiad hwn AM DDIM ond 18 lle unig sydd ar gael. Bydd camerâu ffilm analog ar gael i'w defnyddio/benthyg - neu dewch â'ch camera eich hun!
Mae'r daith gerdded yn cychwyn ym Mae Colwyn, bydd yn para sawl awr ac mae croeso i ffotograffwyr digidol ymuno â ni, ond ffotograffiaeth ffilm a dynnwyd y diwrnod hwnnw yn unig fydd yn cael ei chynnwys yn yr arddangosfa/trafodaeth grŵp.
Byddwch chi’n cael rholyn o ffilm du a gwyn 35mm trwy nawdd caredig gan Kodak.
Mae Eddie Otchere yn ffotograffydd sy'n fwyaf adnabyddus am ei ffotograffau o rapwyr, cantorion a DJs arloesol canol y 1990au a dechrau'r 2000au. Roedd yn siaradwr gwadd yng Ngŵyl ‘inbetweener’ Northern Eye y llynedd, ac yr ydym ni wrth ein bodd yn ei groesawu'n ôl eleni i arwain y gweithdy unigryw hwn.
Mae ei waith yn cynnwys lluniau o Biggie Smalls, Black Star (Mos Def a Thalib Kweli), So Solid Crew, Estelle, Goldie, Omar a llu o rai eraill, yn ogystal â’i ffotograffau swyddogol o Metalheadz: Blue Note sessions 1994-1996. Mae o hefyd wedi gweithio gyda brandiau mawr fel Apple, Converse, Casio G-Shock, Leica, a Spotify.
Ers 1993 mae ffotograffau Otchere wedi’u harddangos a’u cyhoeddi ledled y byd, yn cynnwys ar gloriau cylchgronau rhyngwladol blaenllaw fel Dazed, Lodown a Mixmag, yn ogystal ag ar gloriau rhai o albymau mwyaf arloesol cerddoriaeth rap a drwm a bas.