Nick Hedges: Home In The Shadows
DANGOSIAD FFILM A SGWRS GYDA’R CYFARWYDDWR DAN WATTS
DIGWYDDIAD GŴYL
LLEOLIAD: Oriel Colwyn Gallery
DYDDIAD/AMSER: 16th HYDREF - 7pm (drysau 6.30pm)
Rydym yn falch o gael croesawu’r cyfarwyddwr DAN WATTS i restr digwyddiadau Gŵyl y Northern Eye eleni. Bydd Dan gyda ni ddydd Iau, 16 Hydref, am sgriniad unigryw o’i ffilm fer Nick Hedges: Home In The Shadows (2025) – a ddilynir gan sgwrs a sesiwn holi ac ateb gyda’r cyfarwyddwr.
Cynhelir y dangosiad yn Oriel Colwyn – cewch dalu’r hyn a ellwch am docynnau (AM DDIM neu am gyfraniad); mae hyn yn cadw’r digwyddiad yn hygyrch i bawb, ond bydd cyfyngiad i 30 o bobl.
Mae ffilm ddogfen Dan yn croniclo gwaith y ffotograffydd Nick Hedges, a ddatgelodd realiti amodau byw erchyll y bobl dlawd a oedd yn byw yn nhrefi’r DU yn y 1960au a’r 1970au. Trawsnewidiodd ei waith tosturiol ddirnadaeth pobl, a bu o gymorth i symbylu newid cymdeithasol.
Ar ôl y rhyfel, gadawyd teuluoedd ledled y DU yn amddifad, yn byw mewn tai cymdeithasol o ansawdd gwael ledled y ddinas – tai a adeiladwyd yn wreiddiol yn oes Fictoria ar gyfer gweithwyr ffatrïoedd. Er bod y tai hyn wedi eu condemnio i gael eu dymchwel yn y 1930au, roedd teuluoedd yn dal i fod wedi eu caethiwo i fyw mewn slymiau hyd at y 1970au o ganlyniad i ddiffyg tai cymdeithasol newydd. Bu rhai’n disgwyl am 2 neu 3 blynedd i gael symud tra’r oedd y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo.
Roedd diffyg ymwybyddiaeth yn y gymdeithas bod cymunedau’n gorfod byw fel hyn mewn amodau mor wael, ond nid oedd Nick Hedges yn barod i’w hanwybyddu. Ym 1967 comisiynwyd y ffotograffydd gan elusen Shelter i ddogfennu a datgelu realiti gwarthus yr amodau byw ar gyfer teuluoedd y dosbarth gweithiol mewn dinasoedd ledled y DU. Bu ei luniau effeithiol yn fodd o godi ymwybyddiaeth a sbarduno sgyrsiau pwysig ynglŷn â’r hawl i dai o ansawdd boddhaol.
Mae’r ffilm ddogfen ôl-dremiol yn taflu goleuni ar y dyn y tu ôl i’r lens – dyn y bu ei waith yn agor llygaid ac yn gatalydd i newid.
Mae ffotograffiaeth Nick Hedges yn gofnod pwerus o dlodi ym Mhrydain yn ystod y 1960au a’r 1970au – yn cofnodi amodau byw garw cymunedau dosbarth gweithiol i godi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli newid.
Mae ei waddol yn teimlo’n arbennig o daer heddiw, gydag anghydraddoldeb yn cynyddu, safonau byw yn dirywio, ac argyfwng tai yn gwaethygu. Mae’r ffilm hon, Nick Hedges: Home In The Shadows (2025), yn gofyn cwestiwn syml ond hanfodol: Pam mae tai mor bwysig?
Yn 2021 cyhoeddodd Bluecoat Press waith Nick Hedges ar gyfer Shelter mewn llyfr o’r enw Home, ynghyd â llyfr arall o’r enw Street.
Yn anffodus, bu farw Nick (Rupert Nicholas Wilmore) Hedges, a aned ar 31 Rhagfyr 1943, ar 8 Mehefin 2025, ychydig ar ôl i’r ffilm hon gael ei rhyddhau.
Ysgrifennwyd ysgrif goffa am ei fywyd yn y Guardian gan Greg Whitmore.
Nick Hedges: Home In The Shadows
Cyfarwyddwyd gan Dan Watts
2025, 17 munud
Cynhyrchydd – Isobel Grove / Ian Francis
Mae Dan Watts yn Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Ffotograffiaeth o Birmingham sy’n gweithio ar raglenni dogfen, hysbysebion, cynnwys wedi ei frandio, a theledu ffeithiol.
Mae ei waith yn archwilio unigolion, lleoedd a chymunedau, yn aml yn canolbwyntio ar draddodiadau, isddiwylliannau, y celfyddydau a phobl ar gyrion cymdeithas. Gan gyfuno dychan â phynciau difrifol, mae’n ceisio herio stereoteipiau a newid safbwyntiau.
Mae ei ffilm ddiweddaraf, Nick Hedges: Home In The Shadows, yn ffilm ddogfen ôl-dremiol sy’n taflu goleuni ar y ffotograffydd y bu ei ddelweddau’n gatalydd i newid i deuluoedd a oedd yn byw yn nhai cefn wrth gefn Prydain. Dangoswyd y ffilm gyntaf yng Ngŵyl Flatpack sy’n gymwys ar gyfer BAFTA.
Ynghyd â’i waith dogfennol mae Dan wedi cynhyrchu cynnwys masnachol a chynnwys wedi ei frandio ar gyfer cleientiaid, yn cynnwys Cerddorfa Ffilharmonig y BBC, Timberland, MINI, Bentley, Regatta, Keep Britain Tidy, Carlsberg a Sky Sports, gan greu cynnwys sy’n uno delweddau trawiadol gyda stori ystyrlon.
Ef yw sylfaenydd New Wave, cwmni cynhyrchu lle mae’n dod â’r weithred o adrodd storïau, meddwl yn strategol, a rhwydwaith o gydweithwyr at ei gilydd i greu cynnwys sy’n hyglyw ac sy’n cyffroi pobl.