FFOTO BOOTH - AM DDIM
DIGWYDDIAD GŴYL
LLEOLIAD: Porth Eirias - map location 20
(AR AGOR 10AM-4PM BOB DYDD GAN GYNNWYS PENWYTHNOSAU)
AR AGOR: 3RD HYDREF - 31ST HYDREF.
FFOTO BOOTH AM DDIM
“Bwth Lluniau hen ffasiwn am ddim??”
“OES PLÎS!!”
Fel rhan o Ŵyl Ffotograffiaeth Northern Eye eleni, mae Bwth Lluniau am ddim wedi cael ei osod ym Mhorth Eirias, drwy gydol mis Hydref.
Crëwyd y Bwth Lluniau 100 mlynedd yn ôl yn 1825, ac yn ei ganmlwyddiant rydym yn dathlu lle’r bwth lluniau yn hanes a diwylliant poblogaidd.
Ar agor yn ddyddiol o 10am i 4pm, mae’r bwth yn cynnig cyfle i ymwelwyr dynnu llun ennyd mewn amser, arbrofi gyda phortreadau creadigol, neu’n syml i fwynhau ychydig o hwyl yr ŵyl.
Dim byd modern, na sgriniau cyffwrdd - dim ond rhoi tocyn i mewn, edrych ar y golau coch, aros am y fflach i danio 4 gwaith, a chasglu eich stribed o luniau o flaen y peiriant - fel y dylai fod!
Mae croeso i bawb - galwch heibio unrhyw bryd i gymryd rhan.
Lleoliad: Porth Eirias
Dyddiadau: 4 - 31 Hydref 2025
Oriau agor: 10am–4pm yn ddyddiol
Ymunwch â ni i ddathlu canmlwyddiant y bwth lluniau, creadigrwydd, a chymuned ym Mhorth Eirias trwy gydol mis Hydref.
* RHYBUDD Gall achosi pobl i wenu fel giât a chreu atgofion melys.
*SYLWER: Nid oes angen talu i gymryd rhan, ond drwy ddefnyddio'r Bwth Lluniau, rydych yn rhoi eich caniatâd i ni ddefnyddio eich lluniau mewn prosiectau, arddangosiadau a deunydd hyrwyddo yn y dyfodol.