JILLIAN EDELSTEIN

SIARADWYR YN YR ŴYL

Dechreuodd Jillian Edelstein a leolir yn Llundain weithio fel ffotograffydd y wasg yn Johannesburg, De Affrica. Mynychodd gwrs ffotonewyddiaduriaeth LCC ar ôl graddio ym Mhrifysgol Cape Town, B.Soc.Sc (Anthropoleg, Cymdeithaseg, Gwaith Cymdeithasol Seicoleg).

Pa un a yw’n dogfennu bywydau bobl o gymunedau angof ac wedi eu hymyleiddio, yn portreadu enwogion, yn mynd ar siwrnai bersonol neu’n adrodd ar drasiedi gyfunol, mae ffotograffiaeth Jillian Edelstein bob amser yn ymgysylltu, moesegol ac yn ddewr; mae ei hagwedd yn onest, gobeithiol, urddasol ac yn ddigamsiynol.

Laura ©Jillian Edelstein

Laura ©Jillian Edelstein

Mae lluniau Jillian wedi ymddangos yn rhyngwladol mewn cyhoeddiadau gan gynnwys The New Yorker, The New York Times Magazine, The FT Weekend Magazine, Vanity Fair, Interview, Vogue, Port, The Guardian Weekend, The Sunday Times Magazine, Time, Fortune, Forbes, GQ ac Esquire.

Mae ei lluniau wedi eu harddangos yn rhyngwladol gan gynnwys yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, yr Oriel Ffotograffwyr, yr Academi Frenhinol, Oriel OXO yn Llundain, Sothebys, Les Rencontres Internationales de la Photographie yn Ffrainc, Amgueddfa Bensusan, Amgueddfa Ynys Robben yn Ne Affrica a Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Dali, Yunnan Province, Tsieina.

Mae hi wedi derbyn sawl gwobr gan gynnwys Ffotograffydd Ifanc y Flwyddyn Kodak DU, Gwobr Ffotograffydd y Flwyddyn Portread Oriel, y Visa d’Or yng Ngŵyl Ryngwladol Ffotonewyddiaduriaeth yn Perpignan yn 1997, Gwobr Polaroid Celf Terfynol Ewropeaidd yn 1999, Gwobr Llyfr John Kobal 2003 yn y Wobr Portread Taylor Wessing ddwywaith, Archif Al-AP yn 2008 a 2015.  Enillydd yn Ffotograffia Lladin America 4 2015, yng Ngwobrau Gwasg y Byd ddwywaith ac yn rownd derfynol Gwobrau Portread LensCulture 2017.     Pleidleisiwyd i Jillian ar restr ‘Can Arwres’ ar draws y byd sydd yn trawsnewid ffotograffiaeth heddiw.   Cafodd hyn ei gyhoeddi gan y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol ar 14 Rhagfyr 2018.

Roedd Edelstein yn feirniad yng Ngwobrau Gwasg y Byd 2014, a Gwobrau Taylor Wessing yn 2010.

Rhwng 1996 a 2002 dychwelodd i Dde Affrica yn aml i gofnodi gwaith y Comisiwn Gwirionedd a Chymodi. Tyfodd i fyny mewn gwlad apartheid, ac efallai, roedd hon yn siwrnai bersonol hefyd.   Roedd llyfr ‘Truth and Lies’, Jillian a enillodd wobr, wedi’i dynnu mewn fformat mawr a gyhoeddwyd yn 2002, wedi ennill Gwobr Llyfr John Kobal.  Mae’n cynrychioli cyfrif unigryw o straeon dioddefwyr a throseddwyr.

Five perpetrators ©Jillian Edelstein

Ochr yn ochr â phrosiectau personol fel Affinities a Sangoma, mae wedi gweithio ar ymgyrchoedd ar gyfer Oxfam, FXB International, UNICEF, y Theatr Genedlaethol, Cwmni Brenhinol Shakespeare a’r BBC ymysg eraill, ac wedi cyfarwyddo ffilm ddogfen am y sgriptiwr Norman Wexler.

Affinities: Darcy Bussell and Jonathan Cope © Jillian Edelstein

Y peth mwyaf trawiadol am waith Jillian yw’r gorgyffwrdd rhwng straeon personol - ei hun a straeon eraill.   Mae ei gwaith yn ymdrech eithriadol i ymchwilio a bod yn dyst i gymhlethdod mudo a dadleoli, cyfiawnder a maddeuant, anghydraddoldeb a thlodi a chof a cholled drwy lens empathi, penderfyniad a thrugaredd.   Mae’n rhoi lleisiau i bobl nad oes ganddyn nhw un ac yn datgelu wynebau’r sawl sy’n aml yn anweladwy, gan adrodd rhan o’n straeon ar yr un pryd. 


www.jillianedelstein.com