ANTHONY LUVERA

SIARADWYR YN YR ŴYL

Mae Anthony Luvera yn artist, ysgrifennwr ac addysgwr o Awstralia. Mae ei waith Ffotograffiaeth wedi’i arddangos yn eang mewn orielau, mannau cyhoeddus a gwyliau, gan gynnwys Tate Liverpool, The Gallery at Foyles, yr Amgueddfa Brydeinig, London Underground’s Art on the Underground, National Portrait Gallery London, Belfast Exposed Photography, Australian Centre for Photography, PhotoIreland, Malmö Fotobiennal, Goa International Photography Festival, a Les Rencontres D’Arles Photographie. Mae ei waith ysgrifennu wedi ymddangos mewn ystod o gyhoeddiadau gan gynnwys Photography and Culture, Visual Studies, Photoworks, Source, a Photographies.

Yn gynharach eleni cyflwynodd Anthony arddangosfa o waith newydd yn Belfast Exposed. Ffrwyth llafur cydweithio pum mlynedd rhwng Luvera a chyfranogwr o’r enw Sarah Wilson, She / Her / Hers / Herself yn archwilio profiad unigolyn fel maent yn llywio yn eu hunaniaeth trawsryweddol. Yn cofnodi newidiadau eang iawn ym mywyd Sarah, fel mae’n sefydlu ei gyrfa fel harddwr, mae’n pasio cyfres o gerrig milltir personol ac yn byw bob dydd yn dysgu sut i fynegi ei hun yn wirioneddol.

Video still from She / Her / Hers / Herself (2017 – 2022) by Anthony Luvera

Mae She / Her / Hers / Herself yn rhoi darlun agos o fywyd a phrofiadau Sarah, mae’n cynrychioli mynegiant fenyweidd-dra Sarah sy’n esblygu yn erbyn adeiladwaith cymdeithasol o beth yw bod yn ferch yn y byd cyfoes.

CONSTRUCT yw corff o waith newydd a grëwyd rhwng 2018 a 2022 ar y cyd gyda phobl sydd wedi profi digartrefedd yn Birmingham. Hefyd gwahoddwyd cyfranogwyr i wneud hunan-bortread ar gyfer cyfres barhaus yr artist, Assisted Self-Portraits.

Mae Anthony yn Athro Cysylltiol o Ffotograffiaeth yn Centre for Arts, Memory and Communities ym Mhrifysgol Coventry, ac yn olygydd Photography For Whom, cyfnodolyn ynghylch ffotograffiaeth ymgysylltu â’r gymdeithas. Mae Anthony yn Gadeirydd Pwyllgor Addysg y Royal Photographic Society. Mae wedi dylunio rhaglenni addysg a mentora, yn hwyluso gweithdai, ac yn rhoi darlithoedd i adrannau addysg cyhoeddus yn National Portrait Gallery, Tate, Magnum, Royal Academy of Arts, The Photographers’ Gallery, Photofusion, Barbican Art Gallery, a phrosiectau ffotograffiaeth cymunedol ledled y DU.

www.luvera.com