JANE HILTON

SIARADWYR YN YR ŴYL

Ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau yw Jane Hilton y mae ei gwaith yn tynnu ein sylw at realiti rhyfeddol bywydau pobl gyffredin ac mae'n enwog am ei gwaith yn dogfennu Diwylliant America, yn enwedig Gorllewin America, sy’n rhywle y mae hi wedi'i archwilio ers pum mlynedd ar hugain.

Mae ei monograffau'n cynnwys "Dead Eagle Trail" (Schilt Publishing, 2010) sy'n portreadu ffordd o fyw cowboi yn yr unfed ganrif ar hugain; "Precious" (Schilt Publishing, 2013) yn cynnwys portreadau noeth o ferched yn gweithio yn Nevada; ac yn fwyaf diweddar "LA Gun Club" (hunan-gyhoeddedig, 2016) sy’n archwilio Diwylliant Gynnau America ac yn cynnwys casgliad o bosteri targed ‘ergydion’ unigryw.

LA Gun Club ©Jane Hilton

Mae Jane yn ymddiddori mewn pynciau sy’n gyfreithiol ond nad ydyn nhw’n dderbyniol yn gymdeithasol. Yn 2000 cafodd ei chomisiynu gan y BBC i wneud cyfres o ddeg ffilm ddogfen am ddau buteindy yn Nevada; “Love for Sale”, yr unig dalaith yn America lle mae puteindra yn gyfreithlon. Yn fwyaf diweddar, mae hi wedi treulio’r wyth mlynedd diwethaf yn ffilmio ‘The Last Lion Tamer’ yn dilyn brwydr teulu i achub eu ffordd o fyw gan fod y llywodraeth yn bwriadu gwahardd pob anifail gwyllt rhag perfformio mewn syrcasau.

Cyrhaeddodd ei phrosiect parhaus ‘Drag Queen Cowboys’ y rhestr fer ar gyfer ‘Sony World Photography Awards 2021’. Roedd yn cynnwys perfformwyr anhygoel yn cydweithio â Jane i greu cyfres o bortreadau. Cafodd ei hysbrydoli gan bortread Hollywood o genre’r Gorllewin Gwyllt, a 'The Misfits' (1961) y cafodd ei ysgrifennu gan Arthur Miller, ac sy’n cynnwys Marilyn Monroe a Clark Gable. Mae’r gyfres yn cyfosod rhamantiaeth y Gorllewin a’i gowbois garw, a’i gymeriadau dadleoledig a welir yn y ffilm hon. Gan symud o’u hamgylchedd arferol o glybiau a bariau, i olau naturiol Gorllewin America, cafodd y gyfres ei thynnu ar gamera plât 5x4 â ffilm du a gwyn, heb unrhyw atgyffwrdd.

From the series: Chasing the Hummingbirds ©Jane Hilton

Mae’r prosiect yn dychwelyd i Vegas eleni, ac mae wedi datblygu, gan newid i Chasing The Hummingbirds, taith weledol sy'n dogfennu'r amwyseddau sy'n gwneud yr isddiwylliant hwn mor rymus. Nid yw rhywedd byth yn broblem. Mae’n symbol o ryddid a pharch, gan herio rhagdybiau a rhagfarnau’r gorffennol. 

Mae Jane yn byw ac yn gweithio yn Llundain ac mae hi wedi arddangos ei gwaith yn rhyngwladol. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol iddi yn 2014 ac yn fwyaf diweddar cafodd ei dewis yn un o’r cant o arwresau (Hundred Heroines) sy’n cynrychioli’r merched mwyaf ysbrydoledig yn rhyngwladol ym myd Ffotograffiaeth heddiw.

Mae hi wedi ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau mawr felThe Sunday Times Magazine,The Telegraph MagazineaFT Magazine. Mae ei gwaith yn cael ei gasglu a’i arddangos yn eang ac mae ei harddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys: "LA Gun Club", galeri ‘Eleven’, Llundain (2016); "American Cowboy", Nailya Alexander Gallery, Efrog Newydd (2015); "Jane Hilton's America", galeri ‘Schilt’, Amsterdam (2014); a sioeau grŵp "The Scarlett Muse", Daniel Cooney Fine Art, Efrog Newydd (2016); "The Future Can Wait", galeri 'Charlie Smith', Llundain (2014); "Knock Knock", galeri ‘Jerwood’, Hastings (2013).

www.janehilton.com