HARK1KARAN

SIARADWYR YN YR ŴYL

Hark1karan by Nahwand Jaff

Mae Hark1karan yn ffotograffydd cymunedol ac yn artist dieithr. Mae’n tynnu lluniau o Bwnjabïaid a Sikhiaid ac o agweddau eraill ar ddiwylliant Llundain.

Day Out With The Girls - Feb 2020 ©Hark1karan

Cafodd ei ddau lyfr cyntaf PIND (2020) – portread myfyriol a dynol o fywyd yn ei bentref hynafiadol Bir Kalan, a KISAAN (2022) – sy’n dogfennu protestiadau ffermwyr yn 2020 a 2021, eu creu a’u cyhoeddi ganddo yn Punjab, India.

PIND - Portrait of a Village in Rural Punjab (2016-2018) ©Hark1karan

KISAAN 2021 ©Hark1karan

Mae o hefyd wedi rhyddhau rhaglen ddogfen ddwy ran fer o’r enw ‘Zimmers of Southall’ - sy’n dogfennu’r is-ddiwylliant BMW ymhlith pobl ifanc Asiaidd yn Southall a ffilmiwyd yng ngorllewin Llundain (2022/2023).

Zimmers of Southall (2020-2021) ©Hark1karan

Mae ei drydydd llyfr ffotograffau, Grass Roots – a gyhoeddwyd drwy lwyfan Out of Place Books, yn canolbwyntio ar gymuned randiroedd Bwnjabaidd yn Smethwick.   

Smethwick Allotments ©Hark1karan

Yn 2023 gafodd ei waith ffotograffiaeth a dogfennol ei gynnwys yn y Venice Biennale fel rhan o’r cynnig Prydeinig, gan gyfrannu at y ffilm Dancing With The Moon

Mae’r ffordd y mae o’n cydweithio gyda phobl o’i gymunedau yn gwneud ei waith yn unigryw. Mae’n gallu cymryd ffotograffau yn agos a gyda gofal, gan gynnig safbwyntiau gwahanol i’r gwyliwr.

www.hark1karan.com