Peter Caton
SIARADWYR YN YR ŴYL
Mae Peter Caton yn ffotograffydd newyddiadurol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol am ei waith, sy’n ymdrin â’r gydberthynas rhwng cyfiawnder amgylcheddol, hanesion dyngarol ac effaith gymdeithasol. Mewn gyrfa sydd wedi para mwy nag ugain mlynedd, mae Peter wedi ymroi i ddogfennu bywydau’r bobl hynny y mae newid hinsawdd, rhyfel ac anghydraddoldeb yn effeithio arnynt fwyaf - yn aml mewn mannau na chlywir amdanynt yn aml yn y cyfryngau torfol.
Ganwyd Peter yn Scarborough, Lloegr ac fe’i magwyd ar gyrion Parc Cenedlaethol y Moorsyng ngogledd Swydd Efrog, lle’r oedd ei rieni’n rheoli cartref mawr i blant. Eu hymrwymiad i waith cymdeithasol gydol eu hoes a roes sylfaen foesol gadarn iddo, a chydymdeimlad dwys â phroblemau pobl eraill.
Wrth ennill ei radd mewn ffotograffiaeth ym Middlesbrough, bu’r heriau economaidd-gymdeithasol i gymunedau dosbarth gweithiol gogledd Lloegr yn ddylanwad arall arno. Ar sail y profiadau cynnar hynny, datblygodd Peter frwdfrydedd gydol oes am adrodd straeon drwy ddelweddau fel ffordd o ennyn cydymdeimlad, codi ymwybyddiaeth a sbarduno newid.
Yn 2006, ar ôl ambell i daith yn ne Asia, penderfynodd Peter newid byd a byw bywyd ar grwydr, gan ymrwymo’n llwyr i’w yrfa ym maes ffotograffiaeth newyddiadurol. Dechreuodd weithio’n helaeth ledled yr isgyfandir, yn gweithio i asiantaethau dyngarol ac amgylcheddol fel Save the Children, CARE, Greenpeace, WFP, UNICEF, UNAIDS, MSF, Oxfam a’r Groes Goch. Wrth weithio ar y prosiectau hyn, cafodd olwg fanwl ar gymunedau sy’n wynebu amryw argyfyngau fel gorfod ymadael â’u cartrefi, sychder, lefel y môr yn codi a bygythiadau i iechyd y cyhoedd.
Yn 2007, comisiynwyd Peter i ddogfennu argyfwng cynyddol ffoaduriaid hinsawdd yn rhanbarth Sundarban yn India. Bu’r comisiwn hwnnw, a’r dinistr a achosodd Seiclon Sidr dros y ffin ym Mangladesh yn ddiweddarach, yn drobwynt yn ei yrfa. Cafodd y profiadau hyn ddylanwad dwys ar ei olwg ar y byd ac fe atgyfnerthont ei ymrwymiad i dynnu sylw at effaith newid hinsawdd ar fywydau pobl go iawn. Ers hynny, ei ysbrydoliaeth yw ei awydd i adrodd hanesion taer am sefyllfaoedd a gaiff eu hanwybyddu’n aml drwy greu naratif delweddol grymus a theimladwy.
Yoak Chatin, 80, rows in his hand made canoe in Wangkotha Village in Old Fangak. ©Peter Caton
Yn y blynyddoedd wedi hynny, daeth lluniau Peter i amlygrwydd mewn arddangosfeydd ac orielau rhyngwladol. Yn 2010, sefydlodd bartneriaeth â Greenpeace wrth lansio Sinking Sundarbans yn Oriel Oxo yn Llundain - arddangosfa rymus a deithiodd i bedwar ban byd, gan gynnwys dinasoedd ledled Asia, De America a’r Unol Daleithiau. Trodd ei sylw wedyn at y Cerrado ym Mrasil, y safana mwyaf bioamrywiol yn y byd, lle mae amaeth diwydiannol a dulliau tyfu uncnwd yn bygwth bodolaeth yr ecosystemau lleol. Cafodd glod mawr am ei waith ym Mrasil, lle bu’n cynnal ei sioeau ei hun mewn dinasoedd mawr, a thafluniwyd delweddau o’i waith ar du allan yr Amgueddfa Celfyddyd Fodern yn São Paulo.
Bu Peter yn byw yn Affrica ers tua degawd - yn byw a gweithio ledled y cyfandir wrth ddogfennu rhai o argyfyngau dyngarol ac amgylcheddol mwyaf enbyd yr oes sydd ohoni. Rhwng crastiroedd crimp dwyrain Affrica, lle mae cymunedau’n wynebu sychder mawr, a’r llifogydd sy’n gorfodi miloedd o bobl yn Ne Swdan i ffoi o’u cartrefi, mae Peter wedi dal i anelu ei lens ar fywydau a phrofiadau pobl sy’n llawn cadernid, bregusrwydd a gobaith. Mae wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol am ei waith yn Affrica, gan gynnwys Gwobr Ffotograffiaeth Ryngwladol (IPA) am ffotograffiaeth amgylcheddol.
Nyachuana Lok tries to dismantle her destroyed home to use the material to build again. ©Peter Caton
Ers pedair blynedd, mae llifogydd di-baid wedi creu dinistr aruthrol yn Ne Swdan, gyda chymunedau cyfan yn gorfod ffoi o’u cartrefi heb lawer o obaith o fedru dychwelyd. De Swdan yw’r genedl ieuengaf yn y byd - a ddaeth yn annibynnol yn 2011 - ac mae’n wynebu heriau dybryd wrth geisio adfer wedi’r rhyfel a brwydro yn erbyn newid hinsawdd ar yr un pryd. Ceir pryderon ymysg arbenigwyr mai dyma fydd yr achos cyntaf o ddadleoli torfol a pharhaol oherwydd newid hinsawdd. Parhaodd yr argyfwng yn 2024 gan effeithio ar 1.4 miliwn o bobl mewn 43 o siroedd. Mae’n sefyllfa ddifrifol - mae mwy nag wyth miliwn o bobl, dros hanner poblogaeth y wlad, yn wynebu newyn a diffyg diogeledd bwyd. Mae tir amaeth yn gorwedd dan ddŵr a chnydau wedi’u difetha ac mae cymunedau mewn mannau anghysbell, fel Fangak, bellach yn byw ar fwyd wedi’i fforio fel lilïau’r dŵr.
Unyielding Floods: A family migrates to higher ground with their livestock. ©Peter Caton
Treuliodd Peter fwy na phedair blynedd yn dogfennu’r drychineb wrth iddi ddatblygu, gan deithio i ogledd De Swdan yn ystod y tymhorau glawog. Tynnodd ei luniau cyntaf o’r llifogydd yn 2020 ac erbyn 2022, roeddent wedi effeithio ar bron i filiwn o bobl. Dechreuodd y llifogydd yn 2019, pan oedd De Swdan yn dal yn adfer ar ôl rhyfel cartref ffyrnig a laddodd bron i 400,000 o bobl. Wrth i’r llifogydd amgylchynu pentrefi cyfan, cafodd pobl eu dal yno gan eu hatal rhag ffoi o’r ymladd. Fe gollodd rhai pobl bopeth a gorfod symud i wersylloedd, lle cawsant ei dal eto gan lifogydd. Amcangyfrifir bod y gyflafan amgylcheddol hon wedi costio £542 miliwn i’r economi wrth i newydd waethygu oherwydd cnydau’n methu a da byw’n marw.
Nyalong Wal, 36, carries her daughter, Nyamal Tuoch, 2, to dry land. ©Peter Caton
Heb unrhyw awgrym y bydd y dyfroedd yn cilio, mae’r frwydr i oroesi’n rhygnu yn ei blaen. Mae’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd yn rhybuddio na fydd llifogydd De Swdan ond yn gwaethygu wrth i’r byd gynhesu. Mae’n anodd dod o hyd i ffyrdd o ddatrys y sefyllfa mewn gwlad lle mae rhyfela wedi gwanhau isadeiledd ac atal ymdrechion i ymateb i’r argyfwng.
Cyhoeddwyd lluniau Peter yn y cyfryngau ym mhedwar ban byd, gan gynnwys yn The Sunday Times Magazine, The Guardian, The Washington Post, Der Spiegel, El País, Marie Claire, Esquire a GEO. Arddangoswyd ei bortreadau llwm ac urddasol o bobl oedd wedi goroesi’r gwahanglwyf yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain, yn dangos ei allu i gyfleu caledi a dyngarwch mewn ffordd deimladwy a graslon.
Mae Peter yn dal i fyw bywyd crwydrol, heb ddim ond ei gês a’i offer tynnu lluniau ar ei gefn. Mae’n defnyddio camera digidol Hasselblad H5D-50c a golau Elinchrom cludadwy, sy’n ei alluogi i dynnu lluniau mor raenus â’r stiwdio mewn mannau anghysbell ac amgylcheddau heriol. Creda Peter yn gryf y gall ffotograffiaeth addysgu ac ysbrydoli pobl a sbarduno newid, ac mae’n dal yn ymrwymo i adrodd yr hanesion sy’n bwysig - ble bynnag y maent yn datblygu.
KICKSTARTER / UNYIELDING FLOODS / DEWI LEWIS PUBLISHING : https://www.kickstarter.com/projects/35974461/unyielding-floods