Holly-Marie Cato
SIARADWYR YN YR ŴYL
Mae Holly-Marie Cato yn ffotograffydd dogfennol a masnachol. Dan ddylanwad ei chefndir mewn Pensaernïaeth, mae gwaith Cato’n ymchwilio’n drylwyr i bobl yn adennill lle yn yr amgylchedd adeiledig. Wrth weithio, mae Cato wedi teithio i bedwar ban byd i fannau fel Nicaragwa a Mumbai er mwyn dod o hyd i straeon go iawn am wytnwch, hawliau dynol a chadwraeth bywyd gwyllt, gan greu cysylltiadau ag elusennau ar lawr gwlad a ffurfio partneriaethau â brandiau rhyngwladol. Mae ei gwaith yn arddangos gras a gonestrwydd ac yn portreadu pobl ag urddas.
“Mae fy ngwaith yn y bôn yn sôn am gysylltiad, pethau sydd gan bawb yn gyffredin yn y profiad dynol, a chlodfori’r gwahaniaethau mawr ac amrywiol. Rydw i’n ymdrin â chrefydd, hunaniaeth, dadleoli pobl, adennill lle a sofraniaeth dros dir.”
Swift River ©Holly-Marie Cato
Mae Swift River yn ymchwilio i’r gymuned wledig yn y mynyddoedd lle symudodd nain a thaid Cato i fyw. Yn ogystal â thrigolion sy’n mudo’n llu, mae Cato’n dogfennu bywydau’r bobl sy’n aros ar y mynydd a’r berthynas gymhleth sydd ganddynt â’r dyfroedd o’u cwmpas, a’r ffordd y maent yn cael eu hamddifadu o’r adnodd naturiol hwnnw, fel cynifer o gymunedau brodorol eraill ledled y byd.
Swift River ©Holly-Marie Cato
Heavy is The Mantle:
City Mission Church ©Holly-Marie Cato
Mae Heavy is The Mantle yn dogfennu’r diwrnodau cyn i’r Esgob Herbert Cato ymddeol fel pennaeth eglwys City Mission a throsglwyddo’r cyfrifoldeb i’r arweinydd nesaf. Wedi’i hysbrydoli gan atgofion melys o fynd i oedfaon y Sul â’i diweddar nain, mae Holly-Marie Cato yn ymchwilio i ryfeddodau Cristnogaeth yn y Caribî, fel y gwisgoedd crand yn y pulpud, canu mawl egnïol, y cymun a’r pregethu theatrig. Heavy is the Mantle oedd arddangosfa gyntaf Cato ar ei phen ei hun yn Oriel Leica yn Llundain (2023), ac mae’n ymdrin ag agweddau ysbrydol a symbolaidd ar y cyfrifoldeb sydd gan arweinyddion eglwysi yn eu parchedigrwydd a’u gorchwyl o drosglwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw a’r traddodiadau i’r genhedlaeth nesaf.
City Mission Church ©Holly-Marie Cato
Notting Hill Carnival:
Notting Hill Carnival ©Holly-Marie Cato
Mae Notting Hill Carnival yn dogfennu naw mlynedd o’r ŵyl fwyaf yn Ewrop, sy’n denu dau filiwn o bobl bob blwyddyn i lecyn bach yng ngorllewin Llundain i ddathlu diwylliant Affro-Caribïaidd a gwytnwch y gymuned sydd wedi mewnfudo i Brydain. Dechreuodd Carnifal Notting Hill yn dilyn y terfysg hiliol enbyd yn erbyn y trigolion Du yn y 1960au, fel ffordd o wrthdystio a gwrthsefyll. Wrth fynd i’r carnifal fe welwch chi dyrfa enfawr a llond y lle o gerddoriaeth uchel, dawnsio, bwyd ac anhrefn, hyd yn oed, ond yn y bôn mae’n ymwneud ag adennill lle mewn ardal sy’n prysur fynd yn gynefin i bobl gefnog. Drwy feddiannu’r lle fel hyn, mae’r carnifal yn rhoi’r cyfle i’r gymuned fynegi gorfoledd beth bynnag eu hamgylchiadau.
Notting Hill Carnival ©Holly-Marie Cato
Maha Kumbh Mela
Maha Kumbh Mela ©Holly-Marie Cato
Mae Maha Kumbh Mela yn gofnod gweledol o’r cynulliad mwyaf o bobl yn y byd, lle ddaeth mwy na hanner biliwn o Hindwiaid ar bererindod i Prayagraj yn India, i ymdrochi yn y Ganges er mwyn puro’u hunain o’u pechodau, hwyluso’u hynt i’r byd nesaf a bendithio eu teuluoedd. Cynhaliwyd y digwyddiad yn ystod cyfliniad unigryw o’r planedau nad yw’n digwydd ond unwaith bob 144 o flynyddoedd.