Select Page

Sgrinio Ffilmiau dros yr Ŵyl

Theatr Colwyn : Sadwrn 14 Hydref

Blow Up 

Sgrinio Ffilmiau dros yr Ŵyl yn Theatr Colwyn

 

Bydd y ffilm Blow Up yn cael ei dangos yn Theatr Colwyn fel rhan o benwythnos yr ŵyl.

Mae’r ffilm Blow-Up yn ffilm Prydeinig-Eidalaidd o 1966 wedi’i chyfarwyddo gan Michelangelo Antonioni am ffotograffydd ffasiwn, wedi’i chwarae gan David Hemmings, sy’n credu ei fod wedi dal llofruddiaeth ar ffilm heb yn wybod iddo. Dyma ffilm gyntaf Antioni oedd yn gyfan gwbl yn Saesneg.

Ffotograffydd mod poblogaidd yn Llundain, y mae ei fyd yn gymysg o ffasiwn, cerddoriaeth bop, mariwana, a rhyw hawdd, ond sy’n teimlo bod ei fywyd yn ddiflas ac yn anobeithiol. Yna mae’n cyfarfod merch brydferth, ddirgel, a hefyd yn sylwi ar rywbeth ofnadwy o amheus yn un o’i luniau ohoni yn y parc. Nid yw’r ffaith ei fod wedi tynnu llun o lofruddiaeth yn ei daro, nes iddo eu hastudio nhw a’u chwyddo yn ei negatifau, gan ddatgelu manylion, a chwyddo elfennau llai a llai, ac yn olaf, yn rhoi’r pos ar ei gilydd.

 

Mae’r dangosiad o’r ffilm yn cael ei gynnwys yn eich tocyn PENWYTHNOS LLAWN neu DDYDD Sadwrn.

Mae nifer fach o seddi ar gael i’w prynu’n unigol os hoffech weld y ffilm ond nid â’r tocyn gŵyl perthnasol.

Mae tocynnau unigol yn £5 a gellir eu prynu drwy’r botwm isod.