
Arddangosfa Gŵyl: 9 – 21 Hydref
10 Mlynedd o Addysg Ffotograffiaeth yng Ngholeg Llandrillo
Map Location 3:
32/34 Conway Road LL29 8HT
Mae 2017 yn flwyddyn arbennig, mae’n nodi 10 mlynedd o gyrsiau Addysg Uwch yng Ngholeg Llandrillo.
Rydym yn dathlu’r foment hon gydag arddangosfa arbennig ym mis Hydref i gyd-fynd â lansio The Northern Eye, gŵyl ffotograffiaeth gyntaf Gogledd Cymru.
Mae’r arddangosfa yn arddangos yr enghreifftiau gorau o waith gan fyfyrwyr o’r gorffennol a’r presennol a bydd hefyd yn dathlu cyflawniad cyn-fyfyrwyr sydd wedi ennill gwobrau, Alan Whitfield a Gemma Pepper.
Mae staff sy’n dysgu ar y cwrs hefyd yn cyfrannu eu gwaith. Gadewch i ni weld os ydynt yn cyrraedd y safon!
Mae ‘Decade’ ar gael i’w gweld yn y dref rhwng 9 a 21 Hydref, gan ffurfio rhan o gynnwys yr ŵyl am ddim sydd ar gael i bawb.

Space and Time © Gemma Pepper

© Nick Auskeur

Gaol © Gemma Pepper