Select Page

Bridget Coaker

Siaradwr yn yr Ŵyl

Siaradwr yn yr Ŵyl: Dydd Sadwrn 14 Hydref, 11:30am

 

Mae Bridget Coaker yn olygydd lluniau wedi’i lleoli yn Llundain, lle mae’n gweithio i’r Guardian a hefyd yn Gyfarwyddwr Ffotograffiaeth ar gyfer yr oriel ffotograffau cyfoes, Troika Editions, y sefydlodd ar y cyd yn 2008 a Troika Photos, asiantaeth ffotograffiaeth a ddechreuodd yn 2000 gyda’r ffotograffydd Michael Walter.

Mae hi wedi bod yn guradur nifer o arddangosiadau, yn cynnwys Residual Traces yn Photofusion, Llundain, ac yn 2009 roedd yn Gyfarwyddwr Gŵyl Ffotograffiaeth Henffordd, lle cyflwynodd ffotograffiaeth gan ffotograffwyr o Ewrop, gan weithio gyda’r ddelwedd o’r plentyn yn “Seen But Not Heard” ac yn guradur sioe ôl-weithredol y ffotonewyddiadurwr a’r gwneuthurwr ffilmiau John Bulmer.

Mae Bridget yn ddarlithydd sy’n ymweld â sawl Prifysgol yn y DU, yn cynnwys Prifysgol y Celfyddydau Creadigol, Prifysgol Derby, Prifysgol Portsmouth, Nottingham Trent, Coleg Celfyddydau Plymouth, Prifysgol Middlesex a Phrifysgol Westminster.

Yn 2011, ymunodd â phwyllgor llywio Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol FORMAT, a chyfranogodd yn Symposiwm Rhwydwaith Ffotograffiaeth Gogledd Ddwyrain Lloegr, Photography Publishing and the Future of the Photo Book. 

Yn 2015, cafodd Bridget ei gwneud yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Ffotograffiaeth, y DU.